Amdanom Ni
Melissa ydw i a fi sy'n rhedeg sesiynau 'Clwb Caru Canu'.
Yn wreiddiol dw i'n dod o Gaerfyrddin ond erbyn hyn dw i wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd gyda fy mhartner a dau fab ifanc.
​
Dw i wedi bod yn athrawes Gymraeg, Cerdd a Drama am 20 mlynedd ac felly mae gen i lawer o brofiad yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Dw i wrth fy modd yn canu, dawnsio a pherfformio. Dw i'n dwlu ar helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau perfformio a meithrin mwynhad tuag at gerddoriaeth.
Nod y dosbarth yw rhoi cyfle i blant fwynhau canu trwy ddysgu caneuon trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae yna groeso hefyd i'r rhai sydd yn dysgu Cymraeg. Mae'r dosbarth yn canolbwyntio ar bethau syml fel rhifau, anifeiliad, lliwiau ac ati. Ar ôl y dosbarth, bydd cyfle i'r rhieni/ gwarcheidwaid gymdeithasu dros baned a gwneud ffrindiau newydd o fewn y dosbarth.

About Us
I'm Melissa and I run the sessions at 'Clwb Caru Canu'.
Originally, I am from Carmarthen but now live in Cardiff with my partner and two young sons.
​
I have been a Welsh, Music and Drama teacher for 20 years and therefore have a great deal of experience in working with children and young people. I love singing, dancing and performing. I also love helping young people develop their skills in performing whilst nurturing an enjoyment towards music.
​
The aim of the class is to give children an opportunity to enjoy singing by learning Welsh songs. There is a warm welcome also for those who are wanting to learn some Welsh. The class focuses on simple topics such as numbers, animals, colours etc. After the class, there is an opportunity for parents/ guardians to socialise with a tea/coffee whilst making new friends within the class.